James Evans, AS

Aelod o’r Senedd dros Frycheiniog a Sir Faesyfed

 

 

 

 

Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru) arfaethedig

 

 

 

 

 

 

Ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer deddfwriaeth i ddisodli deddfwriaeth iechyd meddwl sydd wedi dyddio; gwella'r modd y darperir cynlluniau iechyd meddwl ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc a gwasanaethau i oedolion yng Nghymru; gwella atebolrwydd sefydliadau sector cyhoeddus Cymru; helpu i sicrhau cydraddoldeb rhwng triniaethau iechyd corfforol a thriniaethau iechyd meddwl; a helpu i leihau stigma iechyd meddwl yng Nghymru.

 

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 02 Chwefror 2024

Cam i'w gymryd: Ymatebion erbyn 22 Mawrth 2024

 

 

 

 

 

Mae’r ddogfen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

This document is also available in English.


 

Trosolwg:Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar yr amcanion polisi a’r cynigion ar gyfer y Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru).

 

Sut i ymateb:Mae ffurflen ymateb ar gyfer yr ymgynghoriad hwn wedi'i chynnwys fel rhan o'r ddogfen hon. Dylid anfon ymatebion drwy e-bost neu drwy'r post gan ddefnyddio'r manylion isod, erbyn 22 Mawrth 2024 fan bellaf.

 

Sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio: Mae'n bosibl y caiff y wybodaeth a ddarperir gennych ei defnyddio gan Aelodau o’r Senedd (gan gynnwys yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil), staff cymorth a staff Comisiwn y Senedd, wrth ddatblygu’r Bil Aelod, hyrwyddo'r effaith y bwriedir i'r Bil ei chael, a gwaith craffu dilynol ar y Bil.

 

I gael manylion llawn am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio, gweler polisi preifatrwydd y Senedd ar gyfer Biliau Aelod.

 

Mae rhagor o wybodaeth am y broses ar gyfer Bil Aelod ar gael yn y Canllaw i’r broses ar gyfer Bil Aelod.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

 

Gareth Rogers

Clerc – Cymorth Craffu

Senedd Cymru

Tŷ Hywel

Bae Caerdydd

CF99 1SC

e-bost: BiliauAelod@senedd.cymru

 


 

Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru) arfaethedig

 

Cyflwyniad

 

Cyflwynwyd y ddeddfwriaeth ddrafft hon yn unol â'r rheolau a nodir yn Rheolau Sefydlog y Senedd, sy'n galluogi Aelodau o’r Senedd nad ydynt yn rhan o’r Llywodraeth i gynnig cyfreithiau newydd i Gymru.

 

Ym mis Hydref 2023, bûm yn llwyddiannus mewn balot a gynhaliwyd o dan Reol Sefydlog 26.87 y Senedd, ac enillais yr hawl i gyflwyno cynnig ar gyfer cyfraith newydd. Cynnig ar gyfer Bil Iechyd Meddwl (Cymru) a gyflwynwyd gennyf.[1]O dan y Rheolau Sefydlog, datblygais fy nghynnig ymhellach a chyhoeddi Memorandwm Esboniadol sy’n nodi amcanion polisi a phrif nodau'r cynnig yn fanylach. Bryd hynny, cafodd enw’r Bil arfaethedig ei newid i’r Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru).[2]

 

Ar 13 Rhagfyr 2023, cynhaliwyd dadl ‘caniatâd i fwrw ymlaen’, a chytunodd y Senedd y cawn gyflwyno Bil, o fewn 13 mis i ddyddiad y ddadl honno, i roi effaith i’r cynnig a ddewiswyd yn y balot cynharach, ac yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd yn y Memorandwm Esboniadol.[3]

 

Mae'r ymgynghoriad hwn yn awr yn ceisio barn ar y Bil arfaethedig ac ar yr amcanion polisi y mae’n ceisio eu cyflawni. Nid oes rhaid i ymatebwyr ateb pob cwestiwn a ofynnir, ond byddai'n ein helpu i barhau i ddatblygu'r Bil pe gellid rhoi cymaint o fanylion â phosibl wrth ateb unrhyw gwestiwn.

 

 

James Evans, AS

Aelod o’r Senedd dros Frycheiniog a Sir Faesyfed

Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru) arfaethedig: Ymgynghoriad

 

Rhan 1: Cefndir a diben y Bil drafft

Mae’r ddeddfwriaeth arfaethedig yn ceisio disodli deddfwriaeth iechyd meddwl sydd wedi dyddio; gwella'r modd y darperir cynlluniau iechyd meddwl ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc a gwasanaethau i oedolion yng Nghymru; gwella atebolrwydd sefydliadau sector cyhoeddus Cymru; helpu i sicrhau cydraddoldeb rhwng triniaethau iechyd corfforol a thriniaethau iechyd meddwl; a helpu i leihau stigma iechyd meddwl yng Nghymru.

 

Bydd y diwygiadau a gynigir yn y Bil yn sicrhau y rhoddir mwy o rym i gleifion, a’u bod yn cael mwy o ddewis a dylanwad dros eu triniaeth, a’r urddas a'r parch y maent yn eu haeddu. Bydd y mesurau a gynigir yn y Bil hefyd yn cryfhau llais y claf.

 

Er mwyn cyflawni'r amcanion polisi hyn, bydd y Bil yn cyflwyno newidiadau priodol i Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (“Deddf 1983”) yng Nghymru, ac yn diwygio elfennau o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (“y Mesur”).

 

Rhoddir rhagor o wybodaeth am y cynnig yn y Memorandwm Esboniadol amlinellol, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2023.[4]


 

Rhan 2: Cynnwys a manylion y ddeddfwriaeth arfaethedig

1. Ymgorffori egwyddorion trosfwaol mewn deddfwriaeth

Bydd y Bil yn ymgorffori’r egwyddorion a ganlyn yng Nghymru, y dylid eu hystyried yn rhai trosfwaol ar draws gwasanaethau iechyd meddwl. Wrth arfer unrhyw bwerau o dan Ddeddf 1983, byddai angen i berson roi sylw i’r egwyddorion hyn:

A. Dewis ac Ymreolaeth

B. Y Dull Lleiaf Cyfyngol

C. Budd Therapiwtig

D. Y Person fel Unigolyn

A. Dewis ac Ymreolaeth: rhaid cymryd pob cam ymarferol i:

i. cynorthwyo person sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf i fynegi ei ewyllys a'i ddewisiadau;

ii. rhoi sylw penodol i ewyllys a dewisiadau'r person, hyd yn oed pan fo ymyriad heb gydsyniad wedi'i awdurdodi'n benodol gan y Ddeddf;

iii. hybu urddas y person, a rhoi parch dyledus iddo, gan gynnwys parchu ei gydberthnasoedd cymdeithasol a gofalu; a

iv. cymryd camau i sicrhau bod y person yn deall ei hawliau a'i hawlogaethau tra bo’n ddarostyngedig i'r Ddeddf. 

B. Y Dull Lleiaf Cyfyngol:rhaid arfer unrhyw bŵer o dan y Ddeddf yn y modd lleiaf cyfyngol a lleiaf mewnwthiol sy'n gyson â diben ac egwyddorion y Ddeddf.

 

 

C. Budd Therapiwtig:rhaid i ofal a thriniaeth fod wedi’u cynllunio i ddiwallu anghenion y person mewn modd amserol, a hynny mewn amgylchedd cefnogol, iachaol, gyda'r bwriad o roi terfyn ar yr angen i fod yn ddarostyngedig i bwerau cymell o dan y Ddeddf.

D. Y Person fel Unigolyn: rhaid darparu a chomisiynu gofal a thriniaeth mewn modd sydd:

i. yn parchu ac yn cydnabod rhinweddau, cryfderau, galluoedd a gwybodaeth y person, a’i brofiad blaenorol; a

ii. yn benodol, yn parchu ac yn cydnabod amrywiaeth unigol y person, gan gynnwys unrhyw nodweddion gwarchodedig o dan y Ddeddf Cydraddoldeb (2010).

Cwestiynau’r ymgynghoriad (defnyddiwch y ffurflen ymateb ar ddiwedd y ddogfen i roi eich atebion):

1. A ydych yn credu bod angen y ddeddfwriaeth hon? A allwch roi rhesymau dros eich ateb?

2. A ydych yn cytuno neu’n anghytuno â'r egwyddorion trosfwaol y mae'r Bil yn ceisio eu hymgorffori?

 

2. Newidiadau penodol i'r ddeddfwriaeth bresennol

O dan yr egwyddorion a nodir uchod, bydd y Bil yn ceisio gwneud nifer o newidiadau penodol. Bydd y Bil yn:

A. Rhoi rôl newydd Person Enwebedig yn lle’r darpariaethau Perthynas Agosaf yn Neddf 1983.

B. Newid y meini prawf ar gyfer cadw yn Neddf 1983 er mwyn sicrhau mai dim ond os ydynt yn peri risg o niwed difrifol, naill ai iddynt hwy eu hunain neu i eraill, y gellir cadw pobl, a bod rhaid bod disgwyliad rhesymol o fudd therapiwtig i'r claf.

C. Cyflwyno asesu o bell (rhithwir) o dan ‘ddarpariaethau penodol’ sy'n ymwneud â Meddygon Ail Farn Penodedig, ac Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol.

D. Diwygio'r Mesur i sicrhau nad oes terfyn oedran ar y rhai sy'n gallu gofyn am ailasesiad o'u hiechyd meddwl ac i estyn y gallu i ofyn am ailasesiad i bobl a bennir gan y claf.

 

Bydd y newidiadau hyn yn ategu'r Mesur presennol, y Codau Ymarfer, a pholisïau cenedlaethol perthnasol pellach.

A. Perthynas Agosaf a Pherson Enwebedig

Bydd y Bil yn ceisio rhoi rôl newydd Person Enwebedig yn lle’r darpariaethau Perthynas Agosaf yn y Ddeddf.

Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer rôl y Perthynas Agosaf. Mae'n nodi rhestr hierarchaidd o ‘berthnasau’ ac yn cynnwys nifer o reolau ar gyfer adnabod y Perthynas Agosaf o'r rhestr hon. Tynnodd yr Adolygiad Annibynnol o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (2018) sylw at y ffaith bod defnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid yn gyson o’r farn bod y model presennol o gynnwys teuluoedd a gofalwyr wedi dyddio ac yn annigonol.

Y bwriad fyddai i’r claf ei hun allu dewis Person Enwebedig i'w gynrychioli ac i arfer y swyddogaethau statudol perthnasol y mae'r Bil yn eu cynnig, yn lle’r Perthynas Agosaf. Mae hyn yn cefnogi’r amcan polisi o wella cymorth i gleifion sy’n cael eu cadw ac mae’n gysylltiedig â’r bwriad polisi ehangach o sicrhau bod barn, profiadau ac arbenigedd cleifion yn cael eu hystyried yn fwy llawn ac yn cael eu cymryd o ddifrif wrth roi gofal a thriniaeth iddynt, drwy ganiatáu i unigolyn fynegi ei ddymuniadau drwy rywun y mae’n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo. Drwy wneud hynny, mae'r mesurau hyn yn cefnogi egwyddor dewis ac ymreolaeth.

Ar hyn o bryd, gall y Perthynas Agosaf arfer pwerau o dan amryw o adrannau yn y Ddeddf, gan gynnwys:

a. yr hawl i’w gwneud yn ofynnol cynnal asesiad gyda'r bwriad o dderbyn y claf i'r ysbyty (adran 13(4)).

b. yr hawl i wneud cais i’r claf gael ei dderbyn yn orfodol neu i wneud cais am warcheidiaeth (adrannau 2, 3, 4 a 7).

c. yr hawl i sicrhau yr ymgynghorir ag ef neu y caiff ei hysbysu cyn i weithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy wneud cais i glaf gael ei gadw o dan adran 3 neu wneud cais am warcheidiaeth (adran 11(3)-(4)).

d. yr hawl i wrthwynebu derbyn y claf o dan adran 3 neu i wrthwynebu gwarcheidiaeth (adran 11(4)).

e. yr hawl i orchymyn rhyddhau'r claf (adrannau 23 a 25).

f. yr hawl i wybodaeth a roddir i'r claf sy'n cael ei gadw neu glaf sy'n ddarostyngedig i driniaeth gymunedol o dan oruchwyliaeth (adran 132(4)).

g. yr hawl i wneud cais i Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (adrannau 66 a 68(1)).

Cwestiynau’r ymgynghoriad:

3. A ydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig i roi rôl newydd Person Enwebedig yn lle’r darpariaethau Perthynas Agosaf yn Neddf Iechyd Meddwl 1983?

 

B. Newid y meini prawf ar gyfer cadw, gan sicrhau'r disgwyliad o fudd therapiwtig

Bydd y Bil yn ymgorffori newid yn y meini prawf ar gyfer cadw er mwyn sicrhau mai dim ond os ydynt yn peri risg o niwed difrifol, naill ai iddynt hwy eu hunain neu i eraill, y gellir cadw pobl, a bod rhaid bod disgwyliad rhesymol o fudd therapiwtig i'r claf.

Gan fod Cod Ymarfer Cymru ar y Ddeddf Iechyd Meddwl eisoes yn nodi y dylid darparu gwasanaethau yn unol â rhagdybiaeth o alluedd, ac y dylent fod yr opsiwn lleiaf cyfyngol, bod er lles pennaf y person a sicrhau cymaint o annibyniaeth â phosibl, mae’n debygol mai rhywbeth symbolaidd fydd hyn yn hytrach na rhywbeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol yn ymarferol, ond mae’n bwysig serch hynny.

Mae paragraffau 19 ac 20 yn nodi rhagor o feysydd a fyddai'n gwella cymorth i gleifion, ac egwyddorion dewis ac ymreolaeth. Nid ydynt yn deillio o'r Adolygiad Annibynnol o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (2018) na'r Bil Iechyd Meddwl Drafft (2022). Byddent yn ddatblygiadau unigryw i Gymru, a byddai angen deddfwriaeth sylfaenol ar eu cyfer.

Cwestiynau’r ymgynghoriad:

4. A ydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig i newid y meini prawf ar gyfer cadw er mwyn sicrhau mai dim ond os ydynt yn peri risg o niwed difrifol, naill ai iddynt hwy eu hunain neu i eraill, y gellir cadw pobl?

5. A ydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig i newid y meini prawf fel bod rhaid bod disgwyliad rhesymol o fudd therapiwtig i'r claf?

 

 

 

C. Asesu o bell (rhithwir)

Bydd y Bil yn ceisio cyflwyno asesu o bell (rhithwir) o dan ‘ddarpariaethau penodol’ sy'n ymwneud â Meddygon Ail Farn Penodedig, ac Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol.

Cwestiynau’r ymgynghoriad:

6. A ydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig i gyflwyno asesu o bell (rhithwir) o dan ‘ddarpariaethau penodol’ sy'n ymwneud â Meddygon Ail Farn Penodedig, ac Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol?

 

D. Diwygiadau i Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

Bydd y Bil yn ceisio diwygio'r Mesur i sicrhau nad oes terfyn oedran ar y rhai sy'n gallu gofyn am ailasesiad o'u hiechyd meddwl ac i estyn y gallu i ofyn am ailasesiad i bobl a bennir gan y claf. Ar hyn o bryd, dim ond oedolion gaiff ofyn am ailasesiad, a bydd y newid hwn hefyd yn ceisio sicrhau cydraddoldeb o fewn gwasanaethau, ac yn ceisio mynd i'r afael â'r stigma a deimlir yn aml wrth gael cymorth iechyd meddwl.

Cwestiynau’r ymgynghoriad:

7. A ydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig i ddiwygio'r Mesur i sicrhau nad oes terfyn oedran ar y rhai a gaiff ofyn am ailasesiad o'u hiechyd meddwl?

8. A ydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig i ddiwygio'r Mesur i estyn y gallu i ofyn am ailasesiad i bobl a bennir gan y claf?

 

 

 

Barn gyffredinol

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol drwy gydol y ddogfen ymgynghori hon. Mae'r cwestiynau isod yn ymwneud yn fwy cyffredinol â’r cynnig cyfan. Os oes gennych farn am faterion nad ydym wedi eu trafod yn benodol yn yr ymgynghoriad hwn, rhowch fanylion yn eich ymateb.

Cwestiynau’r ymgynghoriad:

9. A oes gennych farn am yr effaith y byddai'r cynigion yn ei chael ar draws grwpiau poblogaeth gwahanol?

10. A oes gennych farn am yr effaith y byddai'r cynigion yn ei chael ar hawliau plant?

11. A oes gennych farn gyffredinol am y cynnig, nad yw wedi cael sylw yn yr un o'r cwestiynau a ofynnwyd eisoes yn yr ymgynghoriad?

 

Y camau nesaf

Bydd yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael eu cofnodi wrth iddynt ddod i law ac yn cael eu dadansoddi ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori. Caiff adroddiad ar yr ymatebion ei lunio a'i gyhoeddi ochr yn ochr â'r Bil drafft.

Rhoddir ystyriaeth lawn a phriodol i'r holl ymatebion. Wrth ddadansoddi’r ymatebion, bydd ymatebion gan sefydliadau mawr (fel cyrff cyhoeddus mawr, cyflogwyr ac undebau llafur) yn cael eu pwysoli’n briodol, ynghyd ag ymatebion gan sefydliadau y mae'r mesurau a nodir yn y Bil drafft yn effeithio'n uniongyrchol arnynt.

 



[1] Balot Bil Aelod 18 Hydref 2023: Cynnig 016 gan James Evans, AS

[2] Datblygu’r Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru): Memorandwm Esboniadol

[3] Dadl ‘caniatâd i fwrw ymlaen’ yn y Cyfarfod Llawn: 13 Rhagfyr 2023

[4] Datblygu’r Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru): Memorandwm Esboniadol